Ysgol Mynach

Prifathrawes: Ysgol Gynradd Gymunedol Mynach, Pontarfynach, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 4QZ.

Rhif Ffon: 01970 890234

MVC-019F

Edryd Jenkins ac Eluned Evans o Bwyllgor Miri Mynach yn cyflwyno siec o £300 i rai o aelodau Cyngor Ysgol Mynach sef elw o’r daith gerdded a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr.

Cyngor Ysgol Tystysgrif Arian Eco Sgolion

Yn ddiweddar derbyniodd yr ysgol dystysgrif Arian Eco-sgolion yn cydnabod ei ymdrechion i weithio tuag at ffordd gynaliadwy o fyw.

Llongyfarchiadau i fechgyn blwyddyn 5 a 6 am ddod yn ail yng nghystadleuaeth pel-droed 5 bob ochr Urdd Gobaith Cymru i ysgolion bach Cylch Aberystwyth.

Eisteddfod yr Urdd 2010

Eisteddfod yr Urdd 2010 Daeth Parti Unsain yn ail yn yr Eisteddfod Gylch yn Aberystwyth i ysgolion a dan 50 o blant.

Mae datblygiadau yng ngardd yr ysgol. Mae yna gromen helyg a chaban newydd.

Casglodd y Cyngor Ysgol £70 tuag at Gangen Aberystwyth o Epilepsy Action drwy gynnal arwerthiant teganau.

Erbyn hyn mae gennym Gaban newydd i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2. Mae Clwb Brecwast yn dechrau yn yr ysgol Dydd Llun, 20fed Medi.

Gan fod athrawes cyfnod allweddol 2, Lisa Regan yn rhedeg Marathon yn Iwerddon i godi arian i Dy Hafan, pasiwyd i roi arian y Cwrdd Diolchgarwch i’r Apel. Casglwydd £165, llawer o ddiolch i chi gyd.

Rydym wedi casglu 4318 o docynnau Let’s Grow Morrisons. Diolch i bawb am ei help.

Gwahoddodd y Cyngor Ysgol rieni a ffrindiau i baned a chlonc ar pnawn Gwener, 19eg Tachwedd i godi arian at Plant mewn Angen. Llwyddwyd i godi £145, ymdrech ragorol.

Bu Merched y Wawr yn plannu dwy goeden afalau yng ngardd yr ysgol. Bu’r disgyblion yn sgipio, i ddilyn cafwyd cwpanaid a chacen. Llwyddwyd i godi £220 tuag at Ymchwil y Galon. Diolch yn fawr.

Diolch, DIOLCH, DIOLCH! i bawb a helpodd ni i godi’r swm enfawr o £4,530 yn ein Ocsiwn ddechrau Mis Mawrth. Roedd yn noson arbennig. Diolch i bawb!